Actau'r Apostolion 9:24-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul: a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos, i'w ladd ef.

25. Yna y disgyblion a'i cymerasant ef o hyd nos, ac a'i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged.

26. A Saul, wedi ei ddyfod i Jerwsalem, a geisiodd ymwasgu â'r disgyblion: ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod ef yn ddisgybl.

27. Eithr Barnabas a'i cymerodd ef, ac a'i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu.

28. Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerwsalem.

29. A chan fod yn hy yn enw yr Arglwydd Iesu, efe a lefarodd ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid; a hwy a geisiasant ei ladd ef.

30. A'r brodyr, pan wybuant, a'i dygasant ef i waered i Cesarea, ac a'i hanfonasant ef ymaith i Darsus.

31. Yna yr eglwysi trwy holl Jwdea, a Galilea, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd; a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Ysbryd Glân, hwy a amlhawyd.

32. A bu, a Phedr yn tramwy trwy'r holl wledydd, iddo ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn trigo yn Lyda.

Actau'r Apostolion 9