Actau'r Apostolion 9:18-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd.

19. Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda'r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau.

20. Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw.

21. A phawb a'r a'i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid?

22. Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gan gadarnhau mai hwn yw y Crist.

23. Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cydymgynghorodd yr Iddewon i'w ladd ef.

24. Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul: a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos, i'w ladd ef.

25. Yna y disgyblion a'i cymerasant ef o hyd nos, ac a'i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged.

26. A Saul, wedi ei ddyfod i Jerwsalem, a geisiodd ymwasgu รข'r disgyblion: ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod ef yn ddisgybl.

27. Eithr Barnabas a'i cymerodd ef, ac a'i dug at yr apostolion, ac a fynegodd iddynt pa fodd y gwelsai efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan ohono ag ef, ac mor hy a fuasai efe yn Namascus yn enw yr Iesu.

28. Ac yr oedd efe gyda hwynt, yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerwsalem.

Actau'r Apostolion 9