Actau'r Apostolion 9:10-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac yr oedd rhyw ddisgybl yn Namascus, a'i enw Ananeias: a'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth, Ananeias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd.

11. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i'r heol a elwir Union, a chais yn nhŷ Jwdas un a'i enw Saul, o Darsus: canys, wele, y mae yn gweddïo;

12. Ac efe a welodd mewn gweledigaeth ŵr a'i enw Ananeias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelai eilwaith.

13. Yna yr atebodd Ananeias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gŵr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th saint di yn Jerwsalem.

14. Ac yma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr archoffeiriaid, i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di.

15. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dos ymaith: canys y mae hwn yn llestr etholedig i mi, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel.

16. Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef er mwyn fy enw i.

17. Ac Ananeias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i'r tŷ; ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a'm hanfonodd i, (Iesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost,) fel y gwelych drachefn, ac y'th lanwer â'r Ysbryd Glân.

18. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddi wrth ei lygaid ef megis cen: ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd.

19. Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda'r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau.

20. Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw.

21. A phawb a'r a'i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid?

22. Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gan gadarnhau mai hwn yw y Crist.

23. Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cydymgynghorodd yr Iddewon i'w ladd ef.

24. Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul: a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos, i'w ladd ef.

Actau'r Apostolion 9