Actau'r Apostolion 8:14-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A phan glybu'r apostolion yn Jerwsalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant atynt Pedr ac Ioan:

15. Y rhai wedi eu dyfod i waered, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Ysbryd Glân.

16. (Canys eto nid oedd efe wedi syrthio ar neb ohonynt; ond yr oeddynt yn unig wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu.)

17. Yna hwy a ddodasant eu dwylo arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Ysbryd Glân.

18. A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylo'r apostolion y rhoddid yr Ysbryd Glân, efe a gynigiodd iddynt arian,

19. Gan ddywedyd, Rhoddwch i minnau hefyd yr awdurdod hon, fel ar bwy bynnag y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Ysbryd Glân.

20. Eithr Pedr a ddywedodd wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian.

21. Nid oes i ti na rhan na chyfran yn y gorchwyl hwn: canys nid yw dy galon di yn uniawn gerbron Duw.

22. Edifarha gan hynny am dy ddrygioni hwn, a gweddïa Dduw, a faddeuir i ti feddylfryd dy galon.

23. Canys mi a'th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd.

24. A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof fi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o'r pethau a ddywedasoch.

Actau'r Apostolion 8