Actau'r Apostolion 8:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Saul oedd yn cytuno i'w ladd ef. A bu yn y dyddiau hynny erlid mawr ar yr eglwys oedd yn Jerwsalem: a phawb a wasgarwyd ar hyd gwledydd Jwdea a Samaria, ond yr apostolion.

2. A gwŷr bucheddol a ddygasant Steffan i'w gladdu, ac a wnaethant alar mawr amdano ef.

3. Eithr Saul oedd yn anrheithio'r eglwys, gan fyned i mewn i bob tŷ, a chan lusgo allan wŷr a gwragedd, efe a'u rhoddes yng ngharchar.

4. A'r rhai a wasgarasid a dramwyasant gan bregethu y gair.

5. Yna Philip a aeth i waered i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt.

6. A'r bobl yn gytûn a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed ohonynt, a gweled yr arwyddion yr oedd efe yn eu gwneuthur.

7. Canys ysbrydion aflan, gan lefain â llef uchel, a aethant allan o lawer a berchenogid ganddynt; a llawer yn gleifion o'r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd.

8. Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno.

9. Eithr rhyw ŵr a'i enw Simon, oedd o'r blaen yn y ddinas yn swyno ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei fod ef ei hun yn rhywun mawr:

10. Ar yr hwn yr oedd pawb, o'r lleiaf hyd y mwyaf, yn gwrando, gan ddywedyd, Mawr allu Duw yw hwn.

Actau'r Apostolion 8