45. Yr hwn a ddarfu i'n tadau ni ei gymryd, a'i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd;
46. Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob.
47. Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef.
48. Ond nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae'r proffwyd yn dywedyd,
49. Y nef yw fy ngorseddfainc, a'r ddaear yw troedfainc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu pa le fydd i'm gorffwysfa i?
50. Onid fy llaw i a wnaeth hyn oll?
51. Chwi rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu'r Ysbryd Glân: megis eich tadau, felly chwithau.
52. Pa un o'r proffwydi ni ddarfu i'ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i'r hwn yr awron y buoch chwi fradwyr a llofruddion:
53. Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith trwy drefniad angylion, ac nis cadwasoch.
54. A phan glywsant hwy'r pethau hyn, hwy a ffromasant yn eu calonnau, ac a ysgyrnygasant ddannedd arno.