Actau'r Apostolion 7:44-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. Tabernacl y dystiolaeth oedd ymhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchmynasai yr hwn a ddywedai wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsai.

45. Yr hwn a ddarfu i'n tadau ni ei gymryd, a'i ddwyn i mewn gydag Iesu i berchenogaeth y Cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd;

46. Yr hwn a gafodd ffafr gerbron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Jacob.

47. Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef.

Actau'r Apostolion 7