38. Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch, gyda'r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac รข'n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i'w rhoddi i ni.
39. Yr hwn ni fynnai ein tadau fod yn ufudd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i'r Aifft,
40. Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i'n blaenori: oblegid y Moses yma, yr hwn a'n dug ni allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo.