Actau'r Apostolion 7:3-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac a ddywedodd wrtho, Dos allan o'th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i'r tir a ddangoswyf i ti.

4. Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y preswyliodd yn Charran: ac oddi yno, wedi marw ei dad, efe a'i symudodd ef i'r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn preswylio yr awr hon.

5. Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed; ac efe a addawodd ei roddi iddo i'w feddiannu, ac i'w had ar ei ôl, pryd nad oedd plentyn iddo.

6. A Duw a lefarodd fel hyn; Dy had di a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant, bedwar can mlynedd.

7. Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farnaf fi, medd Duw: ac wedi hynny y deuant allan, ac a'm gwasanaethant i yn y lle hwn.

8. Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch.

9. A'r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i'r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef,

10. Ac a'i hachubodd ef o'i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ.

11. Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a'n tadau ni chawsant luniaeth.

12. Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf.

13. A'r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo.

14. Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a'i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain.

15. Felly yr aeth Jacob i waered i'r Aifft, ac a fu farw, efe a'n tadau hefyd.

16. A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem.

17. A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft,

Actau'r Apostolion 7