Actau'r Apostolion 7:22-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A Moses oedd ddysgedig yn holl ddoethineb yr Eifftiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau ac mewn gweithredoedd.

23. A phan oedd efe yn llawn deugain mlwydd oed, daeth i'w galon ef ymweled â'i frodyr plant yr Israel.

24. A phan welodd efe un yn cael cam, efe a'i hamddiffynnodd ef, ac a ddialodd gam yr hwn a orthrymid, gan daro'r Eifftiwr.

25. Ac efe a dybiodd fod ei frodyr yn deall, fod Duw yn rhoddi iachawdwriaeth iddynt trwy ei law ef; eithr hwynt‐hwy ni ddeallasant.

26. A'r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a'u hanogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, Ha wŷr, brodyr ydych chwi; paham y gwnewch gam â'ch gilydd?

27. Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â'i gymydog, a'i cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni?

28. A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Eifftiwr ddoe?

29. A Moses a ffodd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhir Midian; lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.

30. Ac wedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo yn anialwch mynydd Seina, angel yr Arglwydd mewn fflam dân mewn perth.

31. A Moses, pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg: a phan nesaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd ato, gan ddywedyd,

32. Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses, wedi myned yn ddychrynedig, ni feiddiai ystyried.

33. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Datod dy esgidiau oddi am dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo sydd dir sanctaidd.

Actau'r Apostolion 7