7. A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi'r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a ufuddhasant i'r ffydd.
8. Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl.
9. Yna y cyfododd rhai o'r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexandriaid, a'r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan:
10. Ac ni allent wrthwynebu'r doethineb a'r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru.
11. Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, Nyni a'i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw.