9. A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan.
10. Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a'r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a'i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i claddasant hi yn ymyl ei gŵr.
11. A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu'r pethau hyn.
12. A thrwy ddwylo'r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon.
13. Eithr ni feiddiai neb o'r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau.
14. A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd:)
15. Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel o'r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt.
16. A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o'r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.
17. A'r archoffeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi'r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen,
18. Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a'u rhoesant yn y carchar cyffredin.
19. Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau'r carchar, ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd,
20. Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau'r fuchedd hon.
21. A phan glywsant, hwy a aethant yn fore i'r deml, ac a athrawiaethasant. Eithr daeth yr archoffeiriad, a'r rhai oedd gydag ef, ac a alwasant ynghyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i'r carchar i'w dwyn hwy gerbron.
22. A'r swyddogion, pan ddaethant, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant,
23. Gan ddywedyd, Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o'r fath sicraf, a'r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.
24. A phan glybu'r archoffeiriad, a blaenor y deml, a'r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn.
25. Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae'r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl.
26. Yna y blaenor, gyda'r swyddogion, a aeth, ac a'u dug hwy heb drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio;