Actau'r Apostolion 5:3-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Eithr Pedr a ddywedodd, Ananeias, paham y llanwodd Satan dy galon di i ddywedyd celwydd wrth yr Ysbryd Glân, ac i ddarnguddio peth o werth y tir?

4. Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? Paham y gosodaist y peth hwn yn dy galon? ni ddywedaist ti gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.

5. Ac Ananeias, pan glybu'r geiriau hyn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glybu'r pethau hyn.

6. A'r gwŷr ieuainc a gyfodasant, ac a'i cymerasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant.

7. A bu megis ysbaid tair awr, a'i wraig ef, heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.

8. A Phedr a atebodd iddi, Dywed di i mi, Ai er cymaint y gwerthasoch chwi y tir? Hithau a ddywedodd, Ie, er cymaint.

9. A Phedr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunasoch i demtio Ysbryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan.

10. Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a'r gwŷr ieuainc wedi dyfod i mewn, a'i cawsant hi yn farw; ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i claddasant hi yn ymyl ei gŵr.

11. A bu ofn mawr ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu'r pethau hyn.

12. A thrwy ddwylo'r apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; (ac yr oeddynt oll yn gytûn ym mhorth Solomon.

13. Eithr ni feiddiai neb o'r lleill ymgysylltu â hwynt: ond y bobl oedd yn eu mawrhau.

14. A chwanegwyd atynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd:)

15. Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hyd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel o'r hyn lleiaf y cysgodai cysgod Pedr, pan ddelai heibio, rai ohonynt.

16. A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o'r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.

17. A'r archoffeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi'r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen,

18. Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a'u rhoesant yn y carchar cyffredin.

19. Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau'r carchar, ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd,

20. Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau'r fuchedd hon.

21. A phan glywsant, hwy a aethant yn fore i'r deml, ac a athrawiaethasant. Eithr daeth yr archoffeiriad, a'r rhai oedd gydag ef, ac a alwasant ynghyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i'r carchar i'w dwyn hwy gerbron.

22. A'r swyddogion, pan ddaethant, ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant,

Actau'r Apostolion 5