23. Gan ddywedyd, Yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gau o'r fath sicraf, a'r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau; eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.
24. A phan glybu'r archoffeiriad, a blaenor y deml, a'r offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, amau a wnaethant yn eu cylch hwy beth a ddeuai o hyn.
25. Yna y daeth un, ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, Wele, y mae'r gwŷr a ddodasoch chwi yng ngharchar, yn sefyll yn y deml, ac yn dysgu y bobl.
26. Yna y blaenor, gyda'r swyddogion, a aeth, ac a'u dug hwy heb drais; oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio;
27. Ac wedi eu dwyn, hwy a'u gosodasant o flaen y cyngor: a'r archoffeiriad a ofynnodd iddynt,
28. Gan ddywedyd, Oni orchmynasom ni, gan orchymyn i chwi nad athrawiaethech yn yr enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerwsalem â'ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dyn hwn.
29. A Phedr a'r apostolion a atebasant ac a ddywedasant, Rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.
30. Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny Iesu, yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren.