Actau'r Apostolion 5:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd o'r dinasoedd o amgylch Jerwsalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysbrydion aflan; y rhai a iachawyd oll.

17. A'r archoffeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef, yr hon yw heresi'r Sadwceaid, ac a lanwyd o genfigen,

18. Ac a ddodasant eu dwylo ar yr apostolion, ac a'u rhoesant yn y carchar cyffredin.

19. Eithr angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau'r carchar, ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd,

20. Ewch, sefwch a lleferwch yn y deml wrth y bobl holl eiriau'r fuchedd hon.

Actau'r Apostolion 5