Actau'r Apostolion 4:16-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i'r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu.

17. Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn.

18. A hwy a'u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu.

19. Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi.

20. Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom.

21. Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i'w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.

22. Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth.

23. A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai'r archoffeiriaid a'r henuriaid wrthynt.

24. Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw'r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a'r ddaear, a'r môr, ac oll sydd ynddynt;

25. Yr hwn trwy'r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer?

26. Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a'r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.

27. Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda'r Cenhedloedd, a phobl Israel,

28. I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a'th gyngor di eu gwneuthur.

29. Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i'th weision draethu dy air di gyda phob hyfder;

30. Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.

31. Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o'r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.

Actau'r Apostolion 4