Actau'r Apostolion 4:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a'r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy;

2. Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu'r bobl, ac yn pregethu trwy'r Iesu yr atgyfodiad o feirw.

3. A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a'u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr.

4. Eithr llawer o'r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi'r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.

5. A digwyddodd drannoeth ddarfod i'w llywodraethwyr hwy, a'r henuriaid, a'r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem,

6. Ac Annas yr archoffeiriad, a Chaiaffas, ac Ioan, ac Alexander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad.

7. Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn?

8. Yna Pedr, yn gyflawn o'r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel,

9. Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i'r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef;

10. Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi.

11. Hwn yw'r maen a lyswyd gennych chwi'r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i'r gongl.

Actau'r Apostolion 4