Actau'r Apostolion 3:9-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A'r holl bobl a'i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw.

10. Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr un a eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml: a hwy a lanwyd o fraw a synedigaeth am y peth a ddigwyddasai iddo.

11. Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i'r porth a elwir Porth Solomon.

12. A phan welodd Pedr, efe a atebodd i'r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio?

13. Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i'w ollwng yn rhydd.

14. Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog;

15. A Thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a gododd Duw o feirw; o'r hyn yr ydym ni yn dystion.

16. A'i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a'r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll.

17. Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd.

18. Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.

Actau'r Apostolion 3