Actau'r Apostolion 3:23-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl.

24. A'r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o'r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn.

25. Chwychwi ydych blant y proffwydi, a'r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw รข'n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear.

26. Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a'i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.

Actau'r Apostolion 3