Actau'r Apostolion 26:9-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth.

10. Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem: a llawer o'r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.

11. Ac ym mhob synagog yn fynych mi a'u cosbais hwy, ac a'u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a'u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.

Actau'r Apostolion 26