Actau'r Apostolion 26:26-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o'r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.

27. O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i'r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu.

28. Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i'm hennill i fod yn Gristion.

Actau'r Apostolion 26