Actau'r Apostolion 24:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Eithr Lysias y pen‐capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a'i dug ef allan o'n dwylo ni,

8. Ac a archodd i'w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di: gan yr hwn, wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o'r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno.

9. A'r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.

10. A Phaul a atebodd, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun.

Actau'r Apostolion 24