Actau'r Apostolion 24:25-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.

26. A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.

27. Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix. A Ffelix, yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i'r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.

Actau'r Apostolion 24