Actau'r Apostolion 24:12-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i'r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas:

13. Ac ni allant brofi'r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o'u plegid.

14. Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a'r proffwydi:

15. A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae'r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i'r cyfiawnion ac i'r anghyfiawnion.

16. Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi‐rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol.

17. Ac ar ôl llawer o flynyddoedd, y deuthum i wneuthur elusennau i'm cenedl, ac offrymau.

18. Ar hynny rhai o'r Iddewon o Asia a'm cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg.

19. Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i'm herbyn.

20. Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor;

21. Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y'm bernir heddiw gennych.

22. Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a'u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i'r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl.

23. Ac efe a archodd i'r canwriad gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac na lesteiriai neb o'r eiddo ef i'w wasanaethu, nac i ddyfod ato.

24. Ac ar ôl talm o ddyddiau, y daeth Ffelix, gyda'i wraig Drusila, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a'i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist.

25. Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.

26. A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: oherwydd paham efe a anfonodd amdano yn fynychach, ac a chwedleuodd ag ef.

27. Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Porcius Ffestus yn lle Ffelix. A Ffelix, yn ewyllysio gwneuthur cymwynas i'r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.

Actau'r Apostolion 24