11. Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.
12. Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i'r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas:
13. Ac ni allant brofi'r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o'u plegid.
14. Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffesu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi, felly yr wyf fi yn addoli Duw fy nhadau; gan gredu yr holl bethau sydd ysgrifenedig yn y ddeddf a'r proffwydi:
15. A chennyf obaith ar Dduw, yr hon y mae'r rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd atgyfodiad y meirw, i'r cyfiawnion ac i'r anghyfiawnion.
16. Ac yn hyn yr ydwyf fi fy hun yn ymarfer, i gael cydwybod ddi‐rwystr tuag at Dduw a dynion, yn wastadol.
17. Ac ar ôl llawer o flynyddoedd, y deuthum i wneuthur elusennau i'm cenedl, ac offrymau.
18. Ar hynny rhai o'r Iddewon o Asia a'm cawsant i wedi fy nglanhau yn y deml, nid gyda thorf na therfysg.
19. Y rhai a ddylasent fod ger dy fron di, ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i'm herbyn.
20. Neu, dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y cyngor;
21. Oddieithr yr un llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith; Am atgyfodiad y meirw y'm bernir heddiw gennych.
22. Pan glybu Ffelix y pethau hyn, efe a'u hoedodd hwynt, gan wybod yn hysbysach y pethau a berthynent i'r ffordd honno; ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen‐capten i waered, mi a gaf wybod eich materion chwi yn gwbl.
23. Ac efe a archodd i'r canwriad gadw Paul, a chael ohono esmwythdra; ac na lesteiriai neb o'r eiddo ef i'w wasanaethu, nac i ddyfod ato.
24. Ac ar ôl talm o ddyddiau, y daeth Ffelix, gyda'i wraig Drusila, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a'i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd yng Nghrist.
25. Ac fel yr oedd efe yn ymresymu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a fydd, Ffelix a ddychrynodd, ac a atebodd, Dos ymaith ar hyn o amser; a phan gaffwyf fi amser cyfaddas, mi a alwaf amdanat.