Actau'r Apostolion 24:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ar ôl pum niwrnod, y daeth Ananeias yr archoffeiriad i waered, a'r henuriaid, ac un Tertwlus, areithiwr; y rhai a ymddangosasant gerbron y rhaglaw yn erbyn Paul.

2. Ac wedi ei alw ef gerbron, Tertwlus a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddywedyd,

3. Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i'r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym mhob man, yn eu cydnabod, O ardderchocaf Ffelix, gyda phob diolch.

4. Eithr, fel na rwystrwyf di ymhellach, yr ydwyf yn deisyf arnat, o'th hynawsedd, wrando arnom ar fyr eiriau.

5. Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn bla, ac yn cyfodi terfysg ymysg yr holl Iddewon trwy'r byd, ac yn ben ar sect y Nasareniaid:

6. Yr hwn a amcanodd halogi'r deml: yr hwn hefyd a ddaliasom ni, ac a fynasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni.

7. Eithr Lysias y pen‐capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a'i dug ef allan o'n dwylo ni,

8. Ac a archodd i'w gyhuddwyr ddyfod ger dy fron di: gan yr hwn, wrth ei holi, y gelli dy hun gael gwybodaeth o'r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno.

9. A'r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedyd fod y pethau hyn felly.

10. A Phaul a atebodd, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wybod dy fod di yn farnwr i'r genedl hon er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cysurus yn ateb trosof fy hun.

11. Canys ti a elli wybod nad oes dros ddeuddeg diwrnod er pan ddeuthum i fyny i addoli yn Jerwsalem.

12. Ac ni chawsant fi yn y deml yn ymddadlau â neb, nac yn gwneuthur terfysg i'r bobl, nac yn y synagogau, nac yn y ddinas:

13. Ac ni allant brofi'r pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o'u plegid.

Actau'r Apostolion 24