Actau'r Apostolion 23:3-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a'th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ôl y ddeddf, a chan droseddu'r ddeddf yn peri fy nharo i?

4. A'r sefyllwyr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di archoffeiriad Duw?

5. A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl.

6. A phan wybu Paul fod y naill ran o'r Sadwceaid, a'r llall o'r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.

7. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Phariseaid a'r Sadwceaid: a rhannwyd y lliaws.

8. Canys y Sadwceaid yn wir a ddywedant nad oes nac atgyfodiad, nac angel, nac ysbryd: eithr y Phariseaid sydd yn addef pob un o'r ddau.

9. A bu llefain mawr: a'r ysgrifenyddion o ran y Phariseaid a godasant i fyny, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd, Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dyn hwn: eithr os ysbryd a lefarodd wrtho, neu angel, nac ymrysonwn â Duw.

10. Ac wedi cyfodi terfysg mawr, y pen‐capten, yn ofni rhag tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i'r milwyr fyned i waered, a'i gipio ef o'u plith hwynt, a'i ddwyn i'r castell.

11. Yr ail nos yr Arglwydd a safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur: canys megis y tystiolaethaist amdanaf fi yn Jerwsalem, felly y mae yn rhaid iti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.

12. A phan aeth hi yn ddydd, rhai o'r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a'u rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent nes iddynt ladd Paul.

13. Ac yr oedd mwy na deugain o'r rhai a wnaethant y cynghrair hwn.

14. A hwy a ddaethant at yr archoffeiriaid a'r henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a'n rhwymasom ein hunain â diofryd, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Paul.

15. Yn awr gan hynny hysbyswch gyda'r cyngor i'r pen‐capten, fel y dygo efe ef i waered yfory atoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef: a ninnau, cyn y delo efe yn agos, ydym barod i'w ladd ef.

16. Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn yma, efe a aeth i mewn i'r castell, ac a fynegodd i Paul.

17. A Phaul a alwodd un o'r canwriaid ato, ac a ddywedodd, Dwg y gŵr ieuanc hwn at y pen‐capten; canys y mae ganddo beth i'w fynegi iddo.

18. Ac efe a'i cymerth ef, ac a'i dug at y pen‐capten; ac a ddywedodd, Paul y carcharor a'm galwodd i ato, ac a ddymunodd arnaf ddwyn y gŵr ieuanc yma atat ti, yr hwn sydd ganddo beth i'w ddywedyd wrthyt.

19. A'r pen‐capten a'i cymerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o'r neilltu, ac a ofynnodd, Beth yw'r hyn sydd gennyt i'w fynegi i mi?

20. Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i'r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef.

21. Ond na chytuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roesant ddiofryd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti.

22. Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef.

23. Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o'r nos;

Actau'r Apostolion 23