20. Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gydfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i waered yfory i'r cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef.
21. Ond na chytuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugeinwr ohonynt, y rhai a roesant ddiofryd, na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod, yn disgwyl am addewid gennyt ti.
22. Y pen‐capten gan hynny a ollyngodd y gŵr ieuanc ymaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedai i neb, ddangos ohono y pethau hyn iddo ef.
23. Ac wedi galw ato ryw ddau ganwriad, efe a ddywedodd, Paratowch ddau cant o filwyr, i fyned hyd yn Cesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch, a deucant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o'r nos;
24. A pharatowch ysgrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i'w ddwyn ef yn ddiogel at Ffelix y rhaglaw.
25. Ac efe a ysgrifennodd lythyr, yn cynnwys yr ystyriaeth yma:
26. Claudius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, yn anfon annerch.
27. Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos â'i ladd ganddynt; ac a achubais i, gan ddyfod â llu arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd.
28. A chan ewyllysio gwybod yr achos yr oeddynt yn achwyn arno, mi a'i dygais ef i waered i'w cyngor hwynt:
29. Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o'u cyfraith hwy, heb fod un cwyn arno yn haeddu angau, neu rwymau.
30. A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i'r gŵr, myfi a'i hanfonais ef allan o law atat ti; ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef ger dy fron di. Bydd iach.
31. Yna y milwyr, megis y gorchmynasid iddynt, a gymerasant Paul, ac a'i dygasant o hyd nos i Antipatris.
32. A thrannoeth, gan adael i'r gwŷr meirch fyned gydag ef, hwy a ddychwelasant i'r castell:
33. Y rhai, gwedi dyfod i Cesarea, a rhoddi'r llythyr at y rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.
34. Ac wedi i'r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd;
35. Mi a'th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchmynnodd ei gadw ef yn nadleudy Herod.