6. Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesáu at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymwth i fawr oleuni o'r nef ddisgleirio o'm hamgylch.
7. A mi a syrthiais ar y ddaear, ac a glywais lais yn dywedyd wrthyf, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid?
8. A minnau a atebais, Pwy wyt ti, O Arglwydd? Yntau a ddywedodd wrthyf, Myfi yw Iesu o Nasareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
9. Hefyd y rhai oedd gyda myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant; ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf.
10. Ac myfi a ddywedais, Beth a wnaf, O Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyfod, a dos i Ddamascus; ac yno y dywedir i ti bob peth a'r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur.
11. A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a'r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus.
12. Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a'r oeddynt yn preswylio yno,
13. A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno.
14. Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a'th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef.
15. Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o'r pethau a welaist ac a glywaist.
16. Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd.
17. A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg;
18. A'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.
19. A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti:
20. A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.