19. A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti:
20. A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.
21. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys mi a'th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd.
22. A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, Ymaith â'r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys ei fod ef yn fyw.
23. Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr,
24. Y pen‐capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau; fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly.
25. Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd?
26. A phan glybu'r canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r pen‐capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur: canys Rhufeiniad yw'r dyn hwn.
27. A'r pen‐capten a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti? Ac efe a ddywedodd, Ie.
28. A'r pen‐capten a atebodd, Â swm mawr y cefais i'r ddinasfraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol.
29. Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef: a'r pen‐capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef.
30. A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod hysbysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a'i gollyngodd ef o'r rhwymau, ac a archodd i'r archoffeiriaid a'u cyngor oll ddyfod yno; ac efe a ddug Paul i waered, ac a'i gosododd ger eu bron hwy.