11. A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a'r rhai oedd gyda mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddeuthum i Ddamascus.
12. Ac un Ananeias, gŵr defosiynol yn ôl y ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll a'r oeddynt yn preswylio yno,
13. A ddaeth ataf, ac a safodd gerllaw, ac a ddywedodd wrthyf, Y brawd Saul, cymer dy olwg. Ac mi a edrychais arno yn yr awr honno.
14. Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a'th ragordeiniodd di i wybod ei ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn hwnnw, ac i glywed lleferydd ei enau ef.
15. Canys ti a fyddi dyst iddo wrth bob dyn, o'r pethau a welaist ac a glywaist.
16. Ac yr awron beth yr wyt ti yn ei aros? cyfod, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd.
17. A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerwsalem, fel yr oeddwn yn gweddïo yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg;
18. A'i weled ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerwsalem: oherwydd ni dderbyniant dy dystiolaeth amdanaf fi.
19. A minnau a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym mhob synagog, y rhai a gredent ynot ti:
20. A phan dywalltwyd gwaed Steffan dy ferthyr di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.
21. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys mi a'th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd.
22. A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn; a hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, Ymaith â'r cyfryw un oddi ar y ddaear: canys nid cymwys ei fod ef yn fyw.