4. Ac wedi i ni gael disgyblion, nyni a arosasom yno saith niwrnod: y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerwsalem.
5. A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynasom; a phawb, ynghyd â'r gwragedd a'r plant, a'n hebryngasant ni hyd allan o'r ddinas: ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddiasom.
6. Ac wedi i ni ymgyfarch â'n gilydd, ni a ddringasom i'r llong; a hwythau a ddychwelasant i'w cartref.
7. Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi inni gyfarch y brodyr, ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt.
8. A thrannoeth, y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant, ac a ddaethant i Cesarea. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr efengylwr, (yr hwn oedd un o'r saith,) ni a arosasom gydag ef.
9. Ac i hwn yr oedd pedair merched o forynion, yn proffwydo.
10. Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i waered o Jwdea broffwyd a'i enw Agabus.
11. Ac wedi dyfod atom, a chymryd gwregys Paul, a rhwymo ei ddwylo ef a'i draed, efe a ddywedodd, Hyn a ddywed yr Ysbryd Glân; Y gŵr biau y gwregys hwn a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerwsalem, ac a'i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd.
12. A phan glywsom y pethau hyn, nyni, a'r rhai oedd o'r fan honno hefyd, a ddeisyfasom nad elai efe i fyny i Jerwsalem.
13. Eithr Paul a atebodd, Beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyf fi nid i'm rhwymo yn unig, ond i farw hefyd yn Jerwsalem, er mwyn enw yr Arglwydd Iesu.
14. A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler.
15. Hefyd, ar ôl y dyddiau hynny, ni a gymerasom ein beichiau, ac a aethom i fyny i Jerwsalem.
16. A rhai o'r disgyblion o Cesarea a ddaeth gyda ni, gan ddwyn un Mnason o Cyprus, hen ddisgybl, gyda'r hwn y lletyem.
17. Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a'n derbyniasant yn llawen.
18. A'r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a'r holl henuriaid a ddaethant yno.
19. Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.
20. A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o'r Iddewon y rhai a gredasant; ac y maent oll yn dwyn sêl i'r ddeddf.
21. A hwy a glywsant amdanat ti, dy fod di yn dysgu'r Iddewon oll, y rhai sydd ymysg y Cenhedloedd, i ymwrthod â Moses; ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau.
22. Pa beth gan hynny? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghyd: canys hwy a gânt glywed dy ddyfod di.