Actau'r Apostolion 21:29-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Canys hwy a welsent o'r blaen Troffimus yr Effesiad yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i'r deml.

30. A chynhyrfwyd y ddinas oll, a'r bobl a redodd ynghyd: ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a'i tynasant ef allan o'r deml: ac yn ebrwydd caewyd y drysau.

31. Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at ben‐capten y fyddin, fod Jerwsalem oll mewn terfysg.

32. Yr hwn allan o law a gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac a redodd i waered atynt: hwythau, pan welsant y pen‐capten a'r milwyr, a beidiasant â churo Paul.

Actau'r Apostolion 21