Actau'r Apostolion 21:25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

Eithr am y Cenhedloedd y rhai a gredasant, ni a ysgrifenasom, ac a farnasom, na bo iddynt gadw dim o'r cyfryw beth; eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eilunod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag puteindra.

Actau'r Apostolion 21

Actau'r Apostolion 21:21-26