17. Ac wedi ein dyfod i Jerwsalem, y brodyr a'n derbyniasant yn llawen.
18. A'r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i mewn at Iago: a'r holl henuriaid a ddaethant yno.
19. Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt, bob yn un ac un, bob peth a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.
20. A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o'r Iddewon y rhai a gredasant; ac y maent oll yn dwyn sĂȘl i'r ddeddf.