Actau'r Apostolion 21:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A digwyddodd, wedi i ni osod allan, ac ymadael â hwynt, ddyfod ohonom ag uniongyrch i Coos, a thrannoeth i Rodes; ac oddi yno i Patara.

2. A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice, ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymaith.

3. Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni, ni a'i gadawsom hi ar y llaw aswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth.

4. Ac wedi i ni gael disgyblion, nyni a arosasom yno saith niwrnod: y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Ysbryd, nad elai i fyny i Jerwsalem.

5. A phan ddarfu i ni orffen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynasom; a phawb, ynghyd â'r gwragedd a'r plant, a'n hebryngasant ni hyd allan o'r ddinas: ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddiasom.

6. Ac wedi i ni ymgyfarch â'n gilydd, ni a ddringasom i'r llong; a hwythau a ddychwelasant i'w cartref.

7. Ac wedi i ni orffen hwylio o Dyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac wedi inni gyfarch y brodyr, ni a drigasom un diwrnod gyda hwynt.

Actau'r Apostolion 21