Actau'r Apostolion 20:36-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddïodd gyda hwynt oll.

37. Ac wylo yn dost a wnaeth pawb: a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant ef;

38. Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.

Actau'r Apostolion 20