30. Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynnu disgyblion ar eu hôl.
31. Am hynny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau.
32. Ac yr awron, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr hwn a all adeiladu ychwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.
33. Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwenychais:
34. Ie, chwi a wyddoch eich hunain, ddarfod i'r dwylo hyn wasanaethu i'm cyfreidiau i, ac i'r rhai oedd gyda mi.
35. Mi a ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo'r gweiniaid; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono ef, mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.
36. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddïodd gyda hwynt oll.
37. Ac wylo yn dost a wnaeth pawb: a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant ef;
38. Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.