Actau'r Apostolion 20:26-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Oherwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddiw, fy mod i yn lân oddi wrth waed pawb oll:

27. Canys nid ymateliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.

28. Edrychwch gan hynny arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn olygwyr, i fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed.

29. Canys myfi a wn hyn, y daw, ar ôl fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i'ch plith, heb arbed y praidd.

30. Ac ohonoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gŵyrdraws, i dynnu disgyblion ar eu hôl.

Actau'r Apostolion 20