Actau'r Apostolion 20:2-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac wedi iddo fyned dros y parthau hynny, a'u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg.

3. Ac wedi aros dri mis, a gwneuthur o'r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Facedonia.

4. A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea; ac o'r Thesaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Derbe, a Timotheus; ac o'r Asiaid, Tychicus a Troffimus.

5. Y rhai hyn a aethant o'r blaen, ac a arosasant amdanom yn Nhroas.

Actau'r Apostolion 20