Actau'r Apostolion 20:14-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A phan gyfarfu efe â ni yn Asos, nyni a'i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene.

15. A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod drannoeth gyferbyn â Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arosasom yn Trogylium; a'r ail dydd y daethom i Miletus.

16. Oblegid Paul a roddasai ei fryd ar hwylio heibio i Effesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia. Canys brysio yr oedd, os bai bosibl iddo, i fod yn Jerwsalem erbyn dydd y Sulgwyn.

Actau'r Apostolion 20