Actau'r Apostolion 2:7-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galileaid yw'r rhai hyn oll sydd yn llefaru?

8. A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y'n ganed ni?

9. Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Jwdea, a Chapadocia, Pontus, ac Asia,

10. Phrygia, a Phamffylia, yr Aifft, a pharthau Libya, yr hon sydd gerllaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iddewon, a phroselytiaid,

11. Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw.

12. A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod?

13. Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.

14. Eithr Pedr, yn sefyll gyda'r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â'm geiriau:

15. Canys nid yw'r rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o'r dydd yw hi.

16. Eithr hyn yw'r peth a ddywedwyd trwy'r proffwyd Joel;

17. A bydd yn y dyddiau diwethaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hysbryd ar bob cnawd: a'ch meibion chwi a'ch merched a broffwydant, a'ch gwŷr ieuainc a welant weledigaethau, a'ch hynafgwyr a freuddwydiant freuddwydion:

18. Ac ar fy ngweision ac ar fy llawforynion y tywalltaf o'm Hysbryd yn y dyddiau hynny; a hwy a broffwydant:

19. A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg.

20. Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.

21. A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.

22. Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau:

23. Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch:

24. Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo.

25. Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgoger.

26. Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a'm cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith:

Actau'r Apostolion 2