Actau'r Apostolion 2:45-47 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

45. A hwy a werthasant eu meddiannau a'u da, ac a'u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb.

46. A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon,

47. Gan foli Duw, a chael ffafr gan yr holl bobl. A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.

Actau'r Apostolion 2