Actau'r Apostolion 2:41-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

41. Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau.

42. Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau.

43. Ac ofn a ddaeth ar bob enaid: a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion.

44. A'r rhai a gredent oll oeddynt yn yr un man, a phob peth ganddynt yn gyffredin;

45. A hwy a werthasant eu meddiannau a'u da, ac a'u rhanasant i bawb, fel yr oedd yr eisiau ar neb.

Actau'r Apostolion 2