29. Ha wŷr frodyr, y mae'n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn.
30. Am hynny, ac efe yn broffwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef:
31. Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth.
32. Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny; o'r hyn yr ydym ni oll yn dystion.
33. Am hynny, wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o'r Ysbryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed.
34. Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i'r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,
35. Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed.
36. Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.
37. Hwythau, wedi clywed hyn, a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Pedr, a'r apostolion eraill, Ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni?
38. A Phedr a ddywedodd wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau; a chwi a dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glân.
39. Canys i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb ymhell, cynifer ag a alwo'r Arglwydd ein Duw ni ato.
40. Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd ac y cynghorodd efe, gan ddywedyd, Ymgedwch rhag y genhedlaeth drofaus hon.
41. Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddiwyd; a chwanegwyd atynt y dwthwn hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau.
42. Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac yng nghymdeithas yr apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddïau.