Actau'r Apostolion 2:11-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw.

12. A synasant oll, ac a ameuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod?

13. Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.

14. Eithr Pedr, yn sefyll gyda'r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â'm geiriau:

Actau'r Apostolion 2