Actau'r Apostolion 19:5-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A phan glywsant hwy hyn, hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Iesu.

6. Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylo arnynt, yr Ysbryd Glân a ddaeth arnynt; a hwy a draethasant â thafodau, ac a broffwydasant.

7. A'r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddeg.

8. Ac efe a aeth i mewn i'r synagog, ac a lefarodd yn hy dros dri mis, gan ymresymu a chynghori'r pethau a berthynent i deyrnas Dduw.

Actau'r Apostolion 19