Actau'r Apostolion 19:39-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

39. Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny.

40. Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o'r ymgyrch hwn.

41. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith.

Actau'r Apostolion 19