Actau'r Apostolion 19:38-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

38. Od oes gan hynny gan Demetrius a'r crefftwyr sydd gydag ef, un hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith i'w chael, ac y mae rhaglawiaid: rhodded pawb yn erbyn ei gilydd.

39. Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynulleidfa gyfreithlon y terfynir hynny.

40. Oherwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysg heddiw; gan nad oes un achos trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o'r ymgyrch hwn.

41. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynulleidfa ymaith.

Actau'r Apostolion 19