Actau'r Apostolion 18:22-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea, efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i waered i Antiochia.

23. Ac wedi iddo dreulio talm o amser efe a aeth ymaith, gan dramwy trwy wlad Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.

24. Eithr rhyw Iddew, a'i enw Apolos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr ysgrythurau, a ddaeth i Effesus.

25. Hwn oedd wedi dechrau dysgu iddo ffordd yr Arglwydd: ac efe yn wresog yn yr ysbryd, a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i'r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Ioan yn unig.

26. A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a'i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach.

27. A phan oedd efe yn ewyllysio myned i Achaia, y brodyr, gan annog, a ysgrifenasant at y disgyblion i'w dderbyn ef: yr hwn, wedi ei ddyfod, a gynorthwyodd lawer ar y rhai a gredasant trwy ras;

28. Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egnïol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy ysgrythurau, mai Iesu yw Crist.

Actau'r Apostolion 18